Y Prosiect

Rydym yn Brosiect Ewropeaidd sy’n ceisio ennyn diddordeb myfyrwyr ifanc mewn pynciau sy’n gysylltiedig â’r gofod. Rydym yn datblygu cyfres o weithgareddau, methodolegau ac adnodau i helpu athrawon a’u myfyrwyr i gyrraedd y sêr gyda’i gilydd.

Rydym yn dod â’r gofod i’ch ystafell ddosbarth

Mae’r gofod yn agosach nag y tybiwch, ac nid oes angen roced arnom i’w gyrraedd. Yn Ein Gofod rydym wedi datblygu cyfres o weithgareddau ac adnoddau i ymgysylltu â myfyrwyr ifanc a dangos iddynt sut mae’r gofod yn effeithio ar eu bywyd pob dydd, er efallai na fyddwn yn ymwybodol ohono.

Gweithio law yn llaw gydag athrawon

Mae ein tîm yn cynnwys athrawon gwyddoniaeth, cyfathrebwyr a dylunwyr sy’n deall prysurdeb dyddiol ac anawsterau addysgwyr, gan eu helpu i ddatblygu cwricwlwm deniadol ac effeithiol sy’n ennyn diddordeb eu myfyrwyr yn y modd gorau posibl.

Athrawon a myfyrwyr, â diddordeb yn y gofod

Credwn mai’r gofod yw un o’r pynciau mwyaf ysbrydoledig i fyfyrwyr ac athrawon. Mae’n cwmpasu bron pob agwedd ar fywyd, gan ganiatáu i ni ddatblygu gweithgareddau rhyngddisgyblaethol sy’n hybu diddordeb mewn pynciau STEM.

Meithrin gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r gofod ymhlith myfyrwyr ifanc

Mae’r gofod yn sector sefydlog sy’n tyfu, ac yn cynnig llawer o gyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr ifanc. Fodd bynnag, ychydig o bobl ifanc sy’n ystyried dilyn gyrfa mewn maes sy’n gysylltiedig â’r gofod. Rydym eisiau ysbrydoli ein myfyrwyr, a’u harwain tuag at lwybrau newydd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt.