Ein tîm
Grŵp o ymarferwyr, cyfathrebwyr ac addysgwyr ydym ni, ac rydym yn angerddol dros y gofod a’r cyfraniadau y gall addysg ofod eu cynnig i bobl ifanc. Sgroliwch i lawr i gael mwy o wybodaeth amdanom!
Cardiff University
Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol yn y 5ed safle ymhlith prifysgolion y DU mewn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 am ansawdd, ac yn 2il am effaith.
Drwy roi pwyslais ar greadigrwydd a chwilfrydedd, ein nod yw cyflawni ein rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a’r byd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau i gefnogi pobl ifanc gyda’u dysgu er mwyn iddyn nhw gyflawni eu potensial. O ganlyniad i’n partneriaethau strategol gydag ysgolion uwchradd, rydym yn cynnal gweithgareddau gwyddonol a thechnolegol ar gyfer ysgolion, sy’n ymgysylltu â dros 28,000 o bobl.
Science Made Simple (SMS)
Mae Science Made Simple (SMS) yn gwmni allgymorth STEM arobryn yng Nghymru, y DU, gydag enw am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, a gweithio fel pont rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd. Mae ein gwasanaethau cyfathrebu gwyddoniaeth arbenigol yn ymgysylltu â 60,000 o bobl y flwyddyn mewn ysgolion, gwyliau a sesiynau dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac yn cynnig profiadau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng addysg ffurfiol a bywyd bob dydd. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod gwyddoniaeth a pheirianneg o fewn cyrraedd pawb, waeth beth fo’u cefndiroedd.
Psiquadro
Mae PSIQUADRO yn fenter nid-er-elw a sefydlwyd yn 2002. Ein nod yw datblygu camau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ymchwil drwy ddigwyddiadau, gweithgareddau allgymorth a fformatau cyfathrebu creadigol ym maes gwyddoniaeth. Rydym yn mynd i’r afael â gwahanol grwpiau targed, sy’n amrywio o fyfyrwyr i ddinasyddion, llunwyr polisïau ac gweithredwyr cymdeithasol eraill gan gyfrannu at greu dinasoedd, amgueddfeydd gwyddoniaeth, canolfannau gwyddoniaeth, ysgolion a chymunedau ymchwil ar draws yr Eidal.
Dros y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu set eang o gydweithrediadau gyda sefydliadau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol a chyrff diwylliannol, fel y Weinyddiaeth Addysg, Prifysgolion ac Ymchwil, Sefydliad Cenedlaethol Ffiseg Niwclear yr Eidal (INFN), y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Astroffiseg (INAF) neu Asiantaeth Ofod yr Eidal (ASI).
Planetarium DK
Agorwyd y planetariwm ym 1989, a hwn yw’r planetariwm mwyaf yn y gwledydd Nordig. Rydym wedi ein lleoli yng nghanol Copenhagen gyda’r theatr ddôm fwyaf yng ngogledd Ewrop, ac arddangosfeydd sydd wedi ennill gwobrau.
in nod yw cyfathrebu ynghylch seryddiaeth, astroffiseg, ehediadau i’r gofod a thechnoleg y gofod â’r cyhoedd yn fwy eang, drwy weithdai uniongyrchol, teithiau tywys, sioeau gwyddoniaeth, ffilmiau a chyflwyniadau yn y theatr ddôm, ein harddangosfeydd ac mewn ffeiriau gwyddoniaeth.
Bob blwyddyn, rydym yn croesawu 145,000 o ymwelwyr, ac mae tua 20,000 o’r rheiny’n blant ysgol. Rydym yn cynnig hyfforddiant blynyddol i athrawon ac mae gennym 5 math gwahanol o raglenni i ysgolion.
NUCLIO
Rydym yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i addysg allgymorth a gwyddonol, gan ganolbwyntio llawer ar seryddiaeth. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo addysg a datblygiad ym maes addysg, drwy ddull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac sy’n dilyn esblygiad cymdeithas ac yn ysgogi disgyblion wrth iddynt chwilio am wybodaeth.
Rydym yn tynnu sylw at ddysgu rhyngddisgyblaethol, dysgu ar sail ymholi ac integreiddio TGCh yn niwylliant yr ysgol ar gyfer datblygu sgiliau addysg yn yr 21ain ganrif. Rydym o’r farn y dylai ysgolion fod ar agor i’r gymuned, yn gweithredu fel ecosystemau dysgu a diwallu anghenion lleol. Rydym yn cynnig sesiynau allgymorth seryddiaeth, a sesiynau hyfforddiant athrawon cenedlaethol a rhyngwladol yn fframwaith y prosiectau yr ydym yn rhan ohonynt.
Explorer Dome
Mae Explorer Dome yn BBaCh allgymorth gwyddoniaeth sydd wedi’i lleoli yn Ne-orllewin y DU. Cawsom ein sefydlu yn 1998 ac rydym yn estyn allan i 50,000 o blant ac oedolion ar draws y DU bob blwyddyn, gan ddarparu profiadau cyffrous, diddorol a chadarnhaol gyda gwyddoniaeth y gofod i bawb.
Mae ein sioeau a’n gweithdai yn sbarduno chwilfrydedd, yn annog sgiliau meddwl a gwyddonol, ac yn caniatáu cysylltiadau rhyfeddol gyda gwyddoniaeth y gofod a’r byd naturiol, i annog brwdfrydedd dros ddysgu gwyddoniaeth a meithrin hunaniaeth sy’n tyfu gyda STEM.
EUSEA
Rydym yn gymuned ryngwladol o weithwyr proffesiynol sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd, trefnwyr gŵyl gwyddoniaeth a digwyddiad gwyddoniaeth. Mae ein cymdeithas yn cynnwys tua 100 o aelodau, gan gynnwys prifysgolion, sefydliadau gŵyl gwyddoniaeth, canolfannau ac amgueddfeydd gwyddoniaeth, bwrdeistrefi a chyrff anllywodraethol.
Rydym wedi datblygu o fod yn llwyfan rhannu gwybodaeth ar gyfer gwyliau gwyddoniaeth Ewrop, i fod yn gymuned gydweithredol o weithwyr proffesiynol sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd, gan ddatblygu a phrofi fformatau newydd o gyfathrebu gwyddoniaeth, meithrin cydberthnasau ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid o sefydliadau gwyddonol, sefydliadau addysg uwch, bwrdeistrefi a rhanbarthau. Mae ein haelodau wedi datblygu dulliau arloesol o gynnal gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus, megis seneddau gwyddoniaeth, hacathons, labordai arloesi, picnic gwyddoniaeth, prosiectau gwyddoniaeth i ddinasyddion neu nosweithiau ymchwilwyr.
EIT Climate-KIC
Mae EIT Climate-KIC yn gymuned o wybodaeth ac arloesedd a gafodd ei sefydlu a’i hariannu gan Sefydliad Arloesedd a Thechnoleg Ewropeaidd (EIT) yn 2010. Ein pwrpas yw mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy arloesedd. Ni yw’r bartneriaeth gyhoeddus-breifat fwyaf yn Ewrop a’n pwrpad yw: creu cymuned draws-Ewropeaidd gynyddol o sefydliadau amrywiol sy’n rhannu ymrwymiad cyffredin i sianelu pŵer creadigrwydd a chrebwyll dynol at her y newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn dod â chwmnïau mawr a bach, sefydliadau gwyddonol a phrifysgolion, awdurdodau dinasoedd a chyrff cyhoeddus eraill, busnesau newydd a myfyrwyr ynghyd. Gyda thros 350 o bartneriaid sefydliadol ffurfiol ar draws 25 o wledydd, rydym yn gweithio ar arloesedd er mwyn lleihau’r newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu i’w oblygiadau anochel.